Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Chwefror 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
 


52(v3)  

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

(45 munud)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

(30 munud)

 

Gweld y cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

 

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru

(30 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

(60 munud)

 

NDM6239 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.

 

</AI5>

<AI6>

6       Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

(60 munud)

 

NDM6204

Hannah Blythyn (Delyn)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.

 

2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad.

 

3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.

 

4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.

 

5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.

 

6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy.

 

</AI6>

<AI7>

7       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

 

NDM6240 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n hawdd cael gafael arnynt.

 

2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a

 

ii) archwilio'r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda.

Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.

Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru."

Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Ym mhwynt 3 b), dileu 'Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol' a rhoi yn ei le:

'y model bancio cymuned a ddatblygwyd yng Nghymru gan Responsible Finance'

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016

'Access to Banking Protocol One Year on Review – Professor Russel Griggs OBE' (Saesneg yn unig)

Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.

 

</AI7>

<AI8>

Cwestiwn Brys

 

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

 

David Rees (Aberafan): Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiogel?

 

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

 

NDM6238 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

 

Mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yng Nghymru, gweithio mewn partneriaeth.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Chwefror

2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>